Welsh language times tables game, designed for iPad.
Fordd hwyliog o ymarfer eich tablau!
Mae Rhedfa Rhifau yn annog plant i ymarfer eu tablau drwy chwarae rhan Rheolwr Traffig mewn maes awyr.
Yr her gyntaf ar lefel 1 yw glanio yr awyren. Ond peidiwch a phoeni mae cymorth ar gael ar furff grid rhifau.
Daw’r ail her ar lefel 2 lle mae’n rhaid codi i’r awyr a does dim cymorth ar gael y tro hwn!
Mae Rhedfa Rhifau yn addas ar gyfer defnydd ystafell ddosbarth neu gartref ar gyfer atgyfnerthu/adolygu.
Mae’n cymryd o ddeutu pedwar munud a hanner i gwblhau y lefelau. Bydd sgôr yn cael ei ddangos ar ddiwedd y lefel fel canran a fel cyfanswm o atebion cywir. Mae’r canlyniadau yn ymddangos yn wyn os derbyniwyd cymorth ag yn ddu fel arall.
Addas ar gyfer oedran 7-11.
Bydd lefelau uwch ar gael yn fuan fydd o fudd i blant hŷn.